The womb is a liminal place full of shadows, whose inhabitants exist somewhere between darkness and light, evolving and living, sensing and knowing, thinking and doing. In the uterus’s amniotic fluid, the embryo swims, waiting, and develops ceaselessly, while its form, its body, its faculties are fashioned through multiple biological processes that are hugely complex, called ontogenesis. Unthinkingly, billions upon billions of atoms a second combine, in chemical reactions described by statistical principles, which are driven by natural laws. And thus are built compounds, molecules, and macromolecules; proteins, fats, and carbohydrates; hormones, enzymes, and nucleic acids; membranes, cellular structures, organelles, cells; and then veins, arteries, and capillaries; blood and lymph; bones, tissues, organs, and systems; skin, flesh, muscle, and nail; heart, lungs, liver, kidneys, and brain. Of course, such processes, namely formation, growth, development, maturing, death, recycling, and replacement, continue throughout our lives. And so, we ask ourselves, what with all the constant change, can we ever know ourselves truly, as permanent beings, before our substance is scattered like the desert sand to the four corners of the universe once again?
[The Unborn] In my safe sack I hover so peacefully, sleeping soundly, imitating the movements of people in the wild world outside. And until my time arrives, this fleshy cave shall shelter me and protect me from the evil of the Eyrth. But I do not sleep all the time, and having awoken for a while, I do everything the order of the universe allows me to do, exclaiming: Oh, unknown World, love me! Oh Life, do not injure me! Or otherwise, undo me! But then, so painfully slowly, I realise that they will not do this, that they cannot, because deaf, and blind, and mute, and incompetent, are the world, and life. Too bright is the magic that binds me; too weak is the voice that would pronounce the word which could cause me to dissolve and disappear. Theirs is the blame for failing to explain to me the vehemence of human desire, and the strength of the instinct to survive. But on my part too, I feel guilty and impotent, since I lack the skill of undoing; nor can I evaporate like mist in the morning Sun. I know not why I am so weak; nor how to find the requisite ability.
[The House of Rebirth] From the outside it appears that I stand here totally silent, but my voice whispers in the shadows inside, whilst the chorus of the last priests echoes chillingly from every surface, namely: May his kingdom come! Numberless tales of the Nw Yrth are woven through my passages, my antechambers, my stores, and my hidden rooms. The walls and ceilings are overflowing with carved and painted images, holy ones and profane ones alike. And partly because of this I am full of magic and spiritual energy.
[The Unborn] Like this, all the time, in the taciturn gloom I hover, my sky-blue eyes shut so tight against whatever I could otherwise see, but despite that, in time I become more disgruntled and uneasy. Now and then waves of some substance buffet me, and it feels like it’s sweeping through me too. From time to time my whole body shakes, but I don’t know at all what’s happening, but it’s not me causing this commotion. There are pins and needles all over my skin, as I consider whether I could exist anywhere outside this internal place, which is warm and safe, where I can be so lazy, giving in to my desires, and satisfying my needs without worry. What would it be like, if my plentiful supply of food and oxygen were to be cut off? What would happen if I were to be exiled from the shadowy comfort of the womb? Could I feast on meaty foods, hunting, tracking, killing, guzzling, digesting, and excreting, if needs be? Or what about farming, cultivating, fertilizing, sowing, and harvesting? My flesh is like grave-dirt about me; hooked into my soul by needs, and pains – and pleasures. And so, imagining this vista of saprophytic existence, which is extremely unpleasant, I sob, having gone into a complete panic.
[The House of Rebirth] From blood, and sweat, and tears, and effort I am born, and only through some secret architectonic skill am I raised up. The sacred pictograms called hierographs inscribed on my walls commemorate the name and the accomplishments of the one whose human body would lie here safely for eternity. To start with a Divinity became man, and after the Magus is escorted here to the house of his long rest, then the man becomes Divinity once more. And then the effective spirit of the Magus returns to the Nw Yrth whence he came originally.
[The Unborn] Once again, I dangle in the balance, pained by visions that pull me this way and that, up and down, left and right, back and forth at the same time, until I doubt I’ll survive. But having come to my senses, I remember that I am the descendant of a line of steadfast pirates, who is staring at a provocative horizon where some unknown significance awaits to be to revealed. Well that’s a lovely idea, isn’t it? And then the pitiful dream shatters. It feels like a freezing curtain descends around me, and I hang for half a heart-beat – ‘chep’ without ‘er’ – over an unbridgeable void, which is seething with the Nw Yrth’s most poisonous snakes. And then I’m falling, or flying, or being thrown – where? What’s this place without – without anything at all in it? But then again, how can you deal with shapes you’ve never seen, nor touched? How is it possible to imagine smells you’ve not experienced yet? Can things exist at all in this world of pure ideas if you can’t describe them in words? And as I continue to fall, my sense of identity, my miraculous personality, starts to crystallize prematurely. And I know this at least: there shall be nothing in my heart but hate. I shall feel nothing but fear and disgust. Only revenge shall I seek. Not one instant shall be without the sound of my scream.
[The House of Rebirth] Consider Lushfé the first great ruler, who gave culture, law, and order to us, and who brought cannibalism to an end by providing other meats. He was killed by Swtakh, and his body dismembered, and he descended to the underground places in the Land of the Rushes by the Swift River. But, as the Sun went on his daily journey which sets the bounds on the day and the night, creating life by singing his song of creation, Tefnuth was listening keenly, and through her wiles, she succeeded in analysing the hidden meaning of the words. And she stole the most secret name of the Sun, gaining the authority to command the living and the dead. And despite his terrible wounds, Lushfé came back to life through the magical tricks of his sister Tefnuth, who was his wife also. In the same way, it is the Magus who shall receive as an inheritance the life of Lushfé. He shall only have to remember the names of all the living things which there were in the first-times, not the original words, but rather the forms which they shall evolve to take in the far future. For in the true Magus, as in the miraculous human seed growing in the womb, is the untrammelled power of every creature under the Sun.
[The Unborn] And suddenly, Oh, I comprehend the whole thing, that change is the crux of time, and we recognise change when objects move, and also through the strengthening and weakening of their qualities, or the increase and decrease of their size. But it’ll look as if an entity called time causes change as well, although it doesn’t exist in its own right. And it’s true that the chief sign of change is life, which arises, follows its course, ebbs and flows, waxes and wanes. But with the help of the strongest magic you can stop the flow of time, walk the void between the instants, and fulfil every desire. You have only to conjure the appropriate feelings and images as intensely as possible, and then speak the words describing with absolute exactness every development and change, whilst making the called-for motions. And this will bind the one thing and free the other, creating and destroying, dissolving and coagulating, in accordance with the will.
[The House of Rebirth] These signs, inscribed everywhere on the walls, the parchments, and on every surface, will secure that he shall live and eat amongst the eternal stars in the world to come, when his pure heart is weighed against the feather of truth. The heart shall be lighter than the feather because of the magic, and then it shall be judged that the supplicant is worthy of eternal life. My walls proclaim the following changeless truth. The Magus shall be the sacrificial bull, as well as the officiating priest, and, moreover, the appointed knife. In the end, in that land across the River of Tears, the reborn shall collect the powers of all the Sorcerers, who shall be insignificant in comparison with his holy might. Thus it is he who shall tear them to pieces, he shall squeeze out their life-force with an iron fist; he shall boil their left-overs in an enormous cauldron; he shall feast on their entrails; he shall completely gnaw away their bones; he shall put their ashes on his fire. And then he shall fully devour their magic, whilst avoiding their poisonous bile. And after he takes possession of their supernatural powers, he shall be able to reign over the Two Worlds, for he and all creation shall be one with each other by then.
[The Unborn] Indeed it was the best thing ever to happen when I realised this, waking from my enforced sleep to experience the revelation. That was when life came to an end – my first womb-bound life at least – when I heard the dung-beetles around the House of Rebirth chanting their eternal song over and over – Khepereni khepekhere kheperenet khepra. Kheperentw khepw khe khepereni khipre. And that’s the song that binds death and rebirth together, whilst abolishing both. And time after time, ever and anon, they sing the same thing – whilst accompanying the beating of my black heart – “chep-er – chep-er – chep-er.”
[The House of Rebirth] For the Magus shall be the sole master of all creation, he shall overcome confusion, and silence the churning originary ocean. It is I, the House of Rebirth, who shall see, and sense, and hear, and smell, and taste. I shall know, and understand, and think, and shout. Therefore, I express this. The Magus shall rule the places beyond time. As bright as the Sun himself shall he be, but totally hidden from the eyes of all. His power shall go before him, like a white-hot serpent, like an eye of fire which sees everything. Because of this he shall do whatever he desires, instantaneously, perfectly, and without impediment; in the same way, what he does not wish, no authority, either on the Eyrth or on the Nw Yrth, can compel him to do. He need only pronounce the precise words; but if he does not do this, he shall fail, and fail utterly, and the consequences shall be dire.
[The Unborn] In my speckled fluid, I totter shakily, whilst bending my body which has been rolled up into the form of a reptile or amphibian now, but which is transforming constantly; and I am a waking sleeper dreaming of an atrocious world, the one who’s vengeful already. My mind’s a hive, teeming with bees, and every one of them stings me with a question whilst pollinating my fears, and multiplying my tortures, but the honeyed answers never come. And so, here’s me, cloaked in endless twilight, and in me the unutterable greed of the Wizard rears up and abates. The contents of the insubstantial sack groans, as I extend sticky, psychic tentacles, to taste the world outside.
[The Hose of Rebirth] Thus I proclaim, from the wild, dry areas of the desert, and the fruitful plains of Biblael near the Weeping River, to the enormous expanses of tundra at the poles of the Nw Yrth. My workmanship, my inorganic flesh, my manufactured bones, sing the glory of the Magus. For it is he who shall reign over all the Sorcerers, as lord of the void beyond time. And he is the one who was before everything came into existence; who lives now; and who shall be authority over the Two Worlds, until the mountains crumble away to grains of sand, and those to fine dust. And after this the particles shall be blown away to the four corners of the universe. And the feeble Sun shall expand, completing its life-cycle, burning blood-red whilst it scorches the Eyrth to a crisp. And then the primal ocean shall boil dry, leaving the Planet as naught but a barren wilderness of salt.
[The Unborn] And here I am, an unknown Wizard to-be, not yet born and unseen, interrogating the tearful world outside the womb. From within my sealed cocoon, I’ll disfigure and re-make every chunk of matter my thoughts hit against, if needs be, or if I want to, until it conforms with the shape of my constantly mutating soul. Surfeited, for a moment at least, on tender, tasty morsels of hatred and fear, of jealousy, and anger, and greed – every one of which defiles me more, while making me giggle at the same time – here I am licking my as-yet toothless gums, and sucking my pipe-like thumb. And then, wrapped in a sea of shadows, I travel resolutely on [*].
[The House of Rebirth] And soon all the appropriate elements shall be provided as necessary. The first element is the flesh, and I shall have this through trickery from the girl who shall be host to the Magus’s new body in due course. The second element, and the third, shall come from the lost lover, named ‘The Baker,’ caught in an endless nightmare, who shall yield the magic and the individual personality. He shall give his shadow to me when his dream comes to an end at the time of the Magus’s birth. The rest of the elements shall come from the chaste man who is sad, wise, and huge at the same time, called ‘The Fat Man.’ In the future he shall lose his heart, and his life-force also. And through all this the Magus can continue to live on the Nw Yrth under the strong light of the true Sun for ever, singing the song of constant rejuvenation – kheperen kheperet nebet em-khet kheperi – to its conclusion. Thus in my form it is written – in this way, thorough my witness, shall it be!
* * * * * * * *
[*] From “The Gnomic Pronouncements of the Aged Mage Elethani Falathale Fahasethela.” I received this “nowhere rumble” whilst dozing over a flagon of “Mangy Mongrel” during a clandestine logosophical interpretive dance performance by Rey Mkwní in the Bizarre Bazaar of Sempiternal Solicitude. (The first part of the name’s true, but the place – run as a profitable side-venture by an incredibly wealthy faith-healer – is an utter hole!). I myself have added the explanatory [comments]). — P.M.
“Our World was, from its inception, capable of expressing ‘tw-míym’ [‘wonders’], if treated in the correct fashion, if tenderly coaxed and caressed by skilled and dedicated Workers. The feats performed by ‘el majishya-nírwn’ or ‘zhm-zh’nru djín’ [‘the marvelizers’] reached a zenith in the time of Ukhu-na-Yaten [‘starry illumination’], the Heretog of the Hegemon of the South-eastern Steppes. However, since the hammering of the Hegemon by the Vazlik marauding militia, we, the Thorlin, have been cajoled, encouraged and forced to ignore our sacred duties of stewardship. By gutting the land, infecting the waters, and tainting the air, we have been courting calamity. We have created for ourselves an unbalanced, body-stunting, and soul-sickening existence on this disintegrating oblate spheroid, awash with turpitude and turmoil. Our habitats boil with the memories of the experiences of all living things, imprinted there as they attempt to subsist and perish – the sublime pleasure – and the excruciating suffering. And these milieux are, by now, in their death-throes, suspiring and aching for immolation before transforming to a new mode of being.
“We have become so steeped in gore that we are almost drowning and cannot turn back. We did not see (nor care) that the tiniest perturbation could grow to shatter everything, and thus, we have been readying ourselves to win the ultimate prize. The Purging Period, the Tribulation Time, the Crisis of Káhtsý Kóh-yáhnis [‘chaotic continuance’], is upon us. Only too soon – and we shall have no choice in this – webs of gossamer will be spun between the stars to extinguish them, and cinders [‘gkw-ríym’] cast down to char the soil. The seas shall turn to dark-green oil, then thick tar, before they gasify, and the vapour explodes to incinerate the entire planet. Oh! Overwhelming sadness engulfs me.
“A new World we have wrought as the old one decayed and waned and vanished away. From this holocaust shall come forth a plethora of new entities and life-worlds. But of their species and dispositions, denominations and habits – so fundamentally alien shall they be that my tongue cleaves to the roof of my mouth and my brain becomes palsied in labouring to encompass them. The World's colours – my eyes –turn from sky-blue, to indigo, to grey, to deep green, to fire-red, to pitch black, to blinding white. Well: what shall be shall be.”
Man drothwyol lawn cysgodion yw’r groth, a’i thrigolion yn bodoli’n rhywle rhwng tywyllwch a goleuni, esblygu a byw, synhwyro a gwybod, meddwl a gwneuthur. Yn hylif amniotig y bru y nofia’r embryo, gan ddisgwyl, a datblygu’n ddi-baid, tra llunnir ei ffurf, ei gorff, ei gyneddfau, trwy amryfal brosesau biolegol sydd dra chymhleth, o’r enw ontogenesis. Yn ddiamgyffred, cyfuna biliynau ar filiynau o atomau yr eiliad, mewn adweithiau cemegol wedi’u disgrifio gan egwyddorion ystadegol, a yrrir gan ddeddfau naturiol. Ac fel hyn yr adeiledir cyfansoddion, moleciwlau, a macromolecylau; proteinau, brasterau, a charbohydradau; hormonau, ensymau, ac asid niwclëig; pilennau, adeileddau cellog, organynnau, celloedd; ac wedyn gwythiennau, rhydwelïau a chapilarïau; gwaed a lymff; esgyrn, meinweoedd, organau, a systemau; croen, cnawd, cyhyr, ac ewin; calon, ysgyfaint, iau, arennau, ac ymennydd. Wrth reswm, bydd prosesau o’r fath, sef ffurfio, dyfu, datblygu, aeddfedu, marw, ailgylchu, ac amnewid, yn parhau drwy gydol ein bywydau. Ac felly y gofynnwn i’n hunain: rhwng y newid cyson oll, a adnabyddwn ni’n hunain byth yn wir, fel bodau parhaol, cyn y chwelir ein sylwedd fel tywod yr anialwch i bedwar ban yr hollfyd unwaith eto?
[Yr Ananedig] Yn fy sach sicr rwy’n arnofio mor llonydd, gan huno’n dawel, wrth ddynwared symudiadau pobl yn y byd ffrochus tu allan. A nes i’m hamser gyrraedd, bydd yr ogo’ gigog hon yn fy nghysgodi a’m hamddiffyn rhag drygioni’r Ddaear. Ond dw i ddim yn cysgu bob amser, ac wedi dihuno am sbel, dyma fi’n ‘neud y cyfan mae’r drefn fawr yn gadael i fi’i ‘neud, gan ebychu: O Fyd anhysbys, carwch fi! O Fywyd, na clwyfwch fi! Ynteu fel arall, byddwch fy nadwneud i! Ond wedyn, mor boenus o ara’, rwy’n sylweddoli na fyddan nhw’n ‘neud hyn, na allan nhw, am mai byddar, a dall, a mud, ac anfedrus yw’r byd, a bywyd. Rhy lachar yw’r lledrith sydd yn fy rhwymo; rhy wan y llais fyddai’n datgan y gair a berai i fi doddi a diflannu. Arnyn nhw mae’r bai am fethu esbonio wrtha i daerineb chwant dynol, a chryfder y reddf oroesi. Ond o’m rhan innau hefyd, dw i’n teimlo’n euog ac analluog, gan taw fi sydd heb ddawn ymddatod; na galla i anweddu fel tarth yn Haul y bore. ‘Dwn i’m pam taw mor wan dw i; na sut i ddod o hyd i’r medr cymwys.
[Tŷ Aileni] Oddi allan yr ymddengys fy mod yn sefyll yma yn hollol ddistaw, ond mae fy llais yn sibrwd yn y cysgodion y tu mewn, wrth i gytgan yr offeiriaid olaf atseinio’n iasol o bob arwyneb, sef: Deled ei deyrnas ef! Gwëir chwedlau di-rif am y Nw Yrth trwy fy nhramwyfeydd, fy rhagystafelloedd, fy storfeydd, a’m siambrau cudd. Mae’r muriau a’r nenfydau’n gyforiog o ddelwau cerfiedig ac wedi'u paentio, rhai sanctaidd a rhai cableddus yn ddiwahân. Ac yn rhannol oblegid hyn yr wyf yn llawn o ddewiniaeth ac egni ysbrydol.
[Yr Ananedig] Fel hyn, drwy’r amser, yn y gwyll tawedog rwy’n hofran, a’m llygaid glas yr awyr wedi’u cau mor dynn yn erbyn beth bynnag welwn i fel arall, ond er ‘ny, yn nhrefn amser fy mod i’n mynd yn fwy anfodlon ac aflonydd. O dro i dro mae tonnau o ryw sylwedd yn rhoi swaden i fi, ac mae’n teimlo ‘sai fe’n ysgubo trwo' i hefyd. O bryd i’w gilydd bydd fy nghorff i gyd yn crynu, ond ‘dwn i’m o gwbl beth sy’n digwydd, ond nage fi sy’n achosi’r fath gyffro. Mae pinnau bach ar fy nghroen i gyd, wrth i fi ystyried allwn i fodoli yn unman tu allan i’r fan fewnol ‘ma, sy’n dwym a diogel, ble rwy’n gallu bod mor ddiog, gan ildio i’m chwantau, a diwallu fy anghenion heb bryder. Sut fyddai hi, ‘sai fy nghyflenwad helaeth o fwyd ac ocsigen yn cael ei dorri? Beth fyddai’n digwydd ‘swn i’n cael fy alltudio o gysur cysgodol y bru? Fedrwn i wledda ar fwydydd cigaidd, gan hela, dilyn trywydd, lladd, traflyncu, treulio, ac ysgarthu, ‘sai’n rhaid i fi? Neu beth am ffermio, trin tir, ffrwythloni, hau, a medi? Mae fy nghnawd fel pridd y bedd o’m hamgylch, wedi’i fachu yn fy enaid ag anghenion, a phoenau – a phleserau. Ac felly, o ddychmygu’r olygfa ‘ma ar fodolaeth saproffytig, sy’n annifyr tu hwnt, beichio llefain dw i, wedi mynd i banic llwyr.
[Tŷ Aileni] O waed, a chwys, a dagrau, ac ymdrech y caf fy ngeni; a dim ond trwy ryw fedr pensaernïol dirgel ac anhygoel y’m codir. Yr arwyddluniau cysegredig o’r enw hierograffau wedi’u hysgythru ar fy waliau a wna goffa am enw a champau’r sawl y byddai ei gorff dynol orwedd yma’n ddiogel am dragwyddoldeb. I ddechrau daeth Duwdod yn ddyn, ac ar ôl i’r Dewin gael ei hebrwng yma i dŷ ei hir gartref, wedyn fe ddaw’r dyn yn Dduwdod unwaith yn rhagor. Ac yna fe dychwel enaid effeithiol y Dewin i’r Nw Yrth, o ble y daeth yn wreiddiol.
[Yr Ananedig] Unwaith eto, rwy’n siglo yn y fantol, gan gael fy mhoeni gan weledigaethau sy’n fy nhynnu yma ac acw, i lan ac i lawr, i’r chwith ac i’r dde, yn ôl ac ymlaen ar yr un pryd, nes mod i’n amau na fydda i’n goroesi. Ond wedi dod at fy nghoed, dw i’n cofio taw disgynnydd llinell môr-leidr di-syfl dw i, sy’n syllu ar orwel herllyd ble mae rhyw arwyddocâd anhysbys yn aros i’w ddatgelu. Wel dyna syniad hyfryd, on’d ife? Ac wedyn dyna chwalu’r freuddwyd bitw. Mae’n teimlo fel ‘sai llen rewllyd yn disgyn o ‘nghwmpas, a fi’n crogi am hanner curiad calon – ‘chep’ heb ‘er’ – uwchben gwacter nas pontir byth, sy’n berwi o seirff mwya’ gwenwynllyd y Nw Yrth. A dyna fi’n cwympo, neu hedfan, neu’n cael fy nhaflu i – i ble? Beth yw’r lle ‘ma heb – heb ddim byd o gwbl ynddo fe? Ond eto i gyd, sut allwch chi ymdrin â siapiau dych chi’m wedi eu gweld, na chyffwrdd â nhw? Sut fydd yn bosib dychmygu arogleuon dych chi’m wedi profi eto? All pethau fodoli o gwbl yn y byd ‘ma o syniadau pur os na allwch chi’u disgrifio mewn geiriau? Ac wrth i fi ddal i syrthio, cychwyn crisialu’n gynamserol a wnaiff fy synnwyr hunaniaeth, fy nghymeriad gwyrthiol. Ac fe wn hyn o leia’: fydd dim byd yn fy nghalon ond casineb. Fydda i’m yn teimlo ond ofn a ffieidd-dra. Dim ond ceisio dial a wna i. Nage’r un eiliad fydd heb sŵn fy sgrech.
[Tŷ Aileni] Ystyrier Lushfé y rheolwr mawr cyntaf, a roddodd ddiwylliant, cyfraith, a threfn inni, ac a ddaeth â chanibaliaeth i ben trwy ddarparu cigoedd eraill. Lladdwyd ef gan Swtach, a thynnwyd ei gorff yn ddarnau, a ddisgynnodd ef i’r lleoedd tanddaearol yn Nhir y Brwyn ger yr Afon Chwim. Ond, wrth i’r Haul fynd ar ei daith feunyddiol a esyd derfynau’r dydd a’r nos, gan greu bywyd trwy ganu’i gân o greu, roedd Tefnuth yn gwrando’n astud, a thrwy ei hystryw, fe lwyddodd hi i ddadansoddi ystyr cêl y geiriau. A dygodd hi enw tra chyfrinachol yr Haul gan ennill awdurdod i orchymyn y byw a’r meirwon. Ac er gwaethaf ei friwiau enbyd, daeth Lushfé yn ôl yn fyw trwy gastiau hudol ei chwaer Tefnuth, a oedd yn wraig iddo hefyd. Yn yr un modd, y Dewin a dderbyn yn etifeddiaeth fywyd Lushfé. Dim ond gorfod cofio enwau’r bodau byw oll a fu yn y cychwyn cyntaf a wna ef, ond nid y geiriau cysefin, ond yn hytrach, y ffurfiau yr esblygant i’w cymryd yn y dyfodol pell. Oblegid mai yn y wir Ddewin, megis yn yr had dynol, gwyrthol yn tyfu yn y groth, y mae pŵer dilyffethair pob creadur o dan yr Haul.
[Yr Ananedig] Ac yn sydyn, O, dw i’n dirnad yr holl beth, taw craidd amser yw newid, a byddwn ni’n sylwi ar newid pan fydd gwrthrychau’n symud, a hefyd drwy gryfhau a gwanhau’u hansoddau, neu gynyddu a lleihau’u maint. Ond fe fydd yn edrych fel ‘sai’r endid o’r enw amser yn achosi newid ar ben hynny, er dyw e ddim yn bodoli ynddo ei hun. Ac mae’n wir taw prif arwydd newid yw bywyd, sy’n codi, dilyn ei gwrs, llanw a threio, cynyddu a chilio. Ond gyda help yr hud cryfa’, fe allwch chi atal treigl amser, rhodio’r gofod rhwng yr eiliadau, a chyflawni pob chwant. Fe fydd yn rhaid i chi ond consurio’r teimladau a’r delweddau priodol mor ddwys ag y bo modd, ac wedyn llefaru’r geiriau‘n disgrifio’n fanwl gywir pob datblygiad a newid, wrth ‘neud yr ystumiau gofynnol. A dyma fydd yn rhwymo’r naill a rhyddhau’r llall, gan roddi bod a dileu, hydoddi a thewychu, yn unol â’r ewyllys.
[Tŷ Aileni] Sicrha’r arwyddion hyn wedi’u mewnsgrifio ym mhobman ar y waliau, y memrynau, ac ar bob gwrthrych, y bydd ef yn byw a bwyta ymhlith y sêr bythol yn y byd a ddaw, pan bwysir ei galon lân yn erbyn pluen gwirionedd. Fe fydd y galon yn ysgafnach na’r bluen oherwydd yr hud, ac wedyn fe fernir bod yr erfyniwr yn deilwng o fywyd tragwyddol. Cyhoedda fy muriau’r gwirionedd anghyfnewidiol, canlynol. Y Dewin fydd y tarw aberthol, yn ogystal â’r offeiriad llywyddol, ac ar ben hynny’r gyllell benodol. Yn y pendraw yn y wlad honno tros Afon Dagrau, fe gasgla’r ailanedig bwerau’r Swynwyr i gyd, a fydd yn ddistadl o’u cymharu â’i rym glân. Felly efe a'u rhwyga nhw’n gareiau; fe wasga ef eu grym bywydol â dwrn o haearn; fe ferwa ef eu gweddillion mewn crochan enfawr; fe wledda ef ar eu perfeddion; fe wna ef ddileu eu hesgyrn yn llwyr gan gnoi; fe rydd ef eu lludw ar ei dân. Ac yna fe lynca ef eu hud yn gyflawn, wrth osgoi eu bustl gwenwynllyd. Ac wedi iddo gymryd meddiant o’u grymoedd goruwchnaturiol fe all ef deyrnasu tros y Ddau Fyd, gan mai ef a’r holl gread fydd yr un fath â’i gilydd erbyn hynny.
[Yr Ananedig] Yn wir y digwyddiad gorau erioed oedd pan sylweddolais hyn, gan effro o ‘nghwsg gorfodol i brofi’r datguddiad. Dyna oedd pan ddaeth bywyd i ben – ‘y mywyd cynta’ yn gaeth i’r groth o leia’ – pan glywais i’r chwilod tom o amgylch Tŷ Aileni’n siantio’u cân dragwyddol drosodd a throsodd – Khepereni khepekhere kheperenet khepra. Kheperentw khepw khe khepereni khipre. A dyna gân sy’n asio marwolaeth a dadeni wrth ei gilydd, wrth ddiddymu’r ddau. A thro ar ôl tro, drachefn a thrachefn byddan nhw’n canu’r un peth – wrth gyfeilio i guriad ‘y nghalon ddu – “chep-er – chep-er – chep-er.”
[Tŷ Aileni] Oblegid mai’r Dewin fydd unig feistr y greadigaeth oll, ef fydd yn trechu annibendod, a thawelu’r môr cychwynnol, corddol. Myfi, Tŷ Aileni, fydd yn gweld, a synhwyro, a chlywed, ac arogleuo, a blasu. Gwybod, a deall, a meddwl, a gweiddi a wnaf. O’r herwydd yr wyf yn mynegu hyn. Fe reola’r Dewin y lleoedd y tu hwnt i amser. Cyn loywed â’r Haul ei hun fydd ef, ond hollol gudd rhag llygaid pawb. Â’i rym o’i flaen, fel neidr eirias, megis llygad o dân sydd yn gweld popeth. Oherwydd hyn y gwna ef ba beth bynnag a ddymuna, ar y gair, i’r dim, a heb rwystr; yn yr un modd, yr hyn na ddymuna, na all dim awdurdod nac ar y Ddaear nac ar y Nw Yrth orfodi ef i’w wneud. Fe fydd ond arno angen llefaru’r union eiriau, ond os na wna hyn, fe fetha ef yn deg, a fydd y canlyniadau'n enbyd.
[Yr Ananedig] Yn ‘yn hylif brith, dw i’n gwegian yn simsan, wrth blygu ‘nghorff sy wedi’i rolio’n ffurf ymlusgiad neu amffibiad bellach ond sy’n parhaus drawsffurfio; a chysgwr effro sy’n breuddwydio am fyd echryslon dw i, yr un sy eisoes yn ddialgar. Cwch gwenyn yw’n meddwl, yn heigio â gwenyn, ac ma’ pob un ohonyn nhw’n ‘y mhigo â chwestiwn wrth beillio’n ofnau, a lluosogi’n arteithiau, ond dyw’r atebion melysber byth yn dod. Ac felly, dyma fi, wedi ’n mantellu â chyfnos diderfyn, ac yno i, ma’ trachwant anhraethol y Rheibiwr yn ymgodi ac ymdawelu. Dyma gynnwys y sach ddisylwedd yn griddfan, wrth i fi estyn tentaclau eneidiol, gludiog, i flasu’r byd tu mas.
[Tŷ Aileni] Felly y cyhoeddaf, o ardaloedd sych, gwyllt yr anialwch, a gwastatiroedd ffrwythlon Biblael ger yr Afon Wylofus, i’r eangderau anferth o dwndra ar ben pegynau’r Nw Yrth. Cân fy saernïaeth, fy nghnawd anorganig, fy esgyrn gwneud, ogoniant y Dewin. Oherwydd mai ef a fydd yn teyrnasu tros y Swynwyr i gyd, fel arglwydd y gwagle y tu hwnt i amser. Ac ef yw’r un a fu cyn i bopeth ddod i fodolaeth; sydd yn byw bellach; ac a fydd yn awdurdod tros y Ddau Fyd, nes i’r mynyddoedd dreulio’n ronynnau tywod, a’r rheiny yn llwch mân. Ac ar ôl hyn fe chwythir y mymrynnau ymaith i bedwar ban y cyfanfyd. Ac ymehanga’r Haul gwan gan gwblhau cylchred ei fywyd, a llosgi’n waedrudd, wrth iddo ysu’r Ddaear yn ulw. Ac wedyn y berwa’r cawl cychwynnol yn sych, gan adael y Blaned yn ddim ond gwylltir anial o halen.
[Yr Ananedig] A dyma fi, darpar Ddewin anhysbys, heb ei eni eto, sy’m yn cael ei weld, yn holi’r byd dagreuol tu mas i’r bru. Oddi mewn i ‘nghocŵn cloëdig, fe fydda i’n anffurfio ac ail-wneud pob talp o fater fydd fy meddyliau’n taro arno fe, os bydd angen, neu os bydda i eisiau, nes iddo fe gydffurfio â siâp ‘yn enaid sy'n mwtanu bob tro. Wedi’n syrffedu, am ennyd o leia’, ar dameidiau blasus, tyner o gasineb ac ofn, o genfigen, a dicter, a gwanc – pob un ohonyn nhw sy’n ‘yn halogi’n fwy, wrth ‘neud i fi bwffian chwerthin ar yr un pryd – dyma fi’n llyfu ‘neintgig heb ddant ynddo eto, a sugno 'mawd fel pib. Ac yna, wedi’n lapio mewn môr llawn cysgodion, dyma fi’n pendant deithio yn ‘mlaen [*].
[Tŷ Aileni] Ac yn fuan fe ddarperir yr elfennau priodol i gyd yn ôl yr angen. Yr elfen gyntaf yw’r cnawd, ac fe gaf fi hwn trwy ddichell gan y ferch fydd yn organedd letyol i gorff newydd y Dewin maes o law. Yr ail elfen, a’r drydedd a ddaw o’r cariad coll, o’r enw ‘Y Pobydd,’ wedi’i ddal mewn hunllef anorffen, a fydd yn ildio’r hud a’r bersonoliaeth unigol. Efe fydd yn rhoi’i gysgod imi pan ddaw ei freuddwyd i ben, amser enedigaeth y Dewin. Bydd gweddill yr elfennau’n dod o’r gŵr diwair sydd yn drist, call, ac enfawr ar yr un pryd, o’r enw ‘Y Tew Ŵr.’ Yn y dyfodol y cyll ef ei galon a’i rym bywiol hefyd. A thrwy hyn oll fe all y Dewin ddal i fyw ar yn y Nw Yrth dan olau cryf yr Haul gwir am byth, gan ganu cân adnewyddu cyson – kheperen kheperet nebet em-khet kheperi – hyd at ei therfyn. Fel hyn yn fy ffurf yr ydys yn ysgrifennu – yn y modd hwn trwy fy nhystiolaeth y bydd!
* * * * * * * *
[*] O “Datganiadau Gnomaidd y Magiad Oedrannus Elethani Falathale Fahasethela.” Fe dderbyniais i’r “eco o unman” ‘ma wrth bendwmpian dros gostrel o “Mwngrel Clafrllyd” yn ystod perfformiad dawns ddeongliadol logososoffolegol llechwraidd gan Rey Mkwní ym Masâr Bisâr Gofal Anfarwol. (Mae rhan gynta’r enw yn gywir, ond mae’r lle – wedi’i redeg fel menter ochr broffidiol gan iachäwr drwy ffydd tra chyfoethog – yn dwll llwyr!) Fi sy wedi ychwanegu’r [sylwadau] eglurhaol. — P.M.
“Fe allai’n Byd ni, ers ei gychwyn, fynegi ‘tw-míym’ [‘rhyfeddodau’], os trinnid ef yn gywir, os cocsid ef ac anwesid ef yn dyner, gan Weithwyr medrus ac ymroddedig. Cyrhaeddodd y campau berfformiwyd gan ‘el majishya-nírwn’ neu ‘zhm-zh’nru djín’ [‘y gwyrthwneuthurwyr’] eu hanterth yn oes Ukhu-na-Yaten [‘goleuad serol’], Pen-arweinydd Penarglwyddiaeth Peithiau’r De-ddwyrain. Fodd bynnag, wedi baeddu’r Benarglwyddiaeth gan filisia anrheithgar y Vazlaw, y mae ni’r Thorlin wedi’n denu, ein hannog, a’n gorfodi i anwybyddu’n dyletswyddau sanctaidd gwasanaeth ni. Trwy wagio’r tir, heintio’r dyfroedd, a llygru’r aer, buom yn gwahodd trychineb. Rydym wedi creu inni’n hunain fodolaeth anghytbwys sy’n crebachu cyrff a phoeni’r enaid, ar y sfferoid byrgrwn adfeiliog hwn, yn nofio mewn anfoesoldeb a helynt. Y mae’n cynefinoedd ni’n berwi gan gofion profiadau pob peth byw, wedi’u hargraffu yno wrth iddynt geisio goroesi a threngi – y pleser gwynfydedig – a’r cystudd arteithiol. Ac y mae’r milieux erbyn hyn yn profi eu gloesion angau, gan ochain ac ysu am losgi cyn trawsffurfio’n ddull newydd ar fod.
“Yr ydym wedi’n trwytho mewn gwaed ir fath raddau mai bron â boddi rydym ni, er nad yw’n bosibl inni droi yn ein holau. Ni welem (na hidio) y gallai’r aflonyddiad, lleiaf dyfu i chwalu popeth, a thrwy hyn rydym wedi bod ati’n paratoi’n hunain i ennill y wobr derfynol. Wedi cyrraedd y mae’r Cyfnod Carthu, yr Amser Cystudd, Argyfwng Káhtsý Kóh-yáhnis [‘parhau caotig’]. Yn rhy fuan – ac ni fydd gennym ddewis o ran hyn – fe wëir gweoedd gwawn rhwng y sêr i’w diffodd hwy, a theflir marwor [‘gkw-ríym’] i lawr i reidio’r pridd. Fe dry’r moroedd yn olew gwyrdd tywyll, ac wedyn yn dar trwchus, cyn iddynt nwyeiddio, a’r tawch ffrwydro i losgi’r blaned oll yn ulw. O! Prudd-der llethol a’m hamlynca.
“Byd newydd yr ydym wedi ei wneuthur, wrth i’r hen un ddadfeilio, edwino, ac o’r diwedd ddiflannu. O’r galanastra hwn y daw gormodedd o endidau newydd i’r golwg, yn ogystal â’u ffyrdd o fyw. Ond ynghylch eu rhywogaethau a’u natur, eu dosbarthau a’u harferion – mor ddieithr yn y bôn fyddant hwy, nes yr ymlyna fy nhafod wrth taflod y genau a pharlysir fy ymennydd wrth ymlafnio i’w hamgyffred hwy. Lliwiau'r Byd – fy llygaid i – a newidia o las yr awyr, i indigo, i lwyd, i wyrdd dwys, i fflamgoch, i burddu, i wyn llachar. Wel: yr hyn a ddigwydd a ddigwydd.”