In hot climates, shadows provide important shelter from the sun, which creates life, but destroys it also. In ancient times in the Eastern Desert, for example, the pitch-black human shadow was considered to be an inseparable part of the personality, which, despite that, could more independently of the body in order to safeguard its owner. The entire population prayed that they would survive after the demise of their physical form, in the Otherworld which was full of shadows, where the Sun would go when he died at the end of every day. Due to this belief, there was considerable effort to continue to live after death, on the part of the wealthy at least. The appropriate provisions involved preparing the body of the person wo had died according to complex instructions, in addition to building a special grave well-supplied with possessions. The grave would be full of powerful amulets and texts containing a treasure-house of religious and magical knowledge so that the place would be teeming with magic and enchantments. These were supposed to empower the departed to survive and flourish in the world to come at least as well as he had done before, if not much better. Such tombs were ‘resurrection machines,’ that is, entrances to the Next World, on the threshold between living and dying. Of course, it would be necessary for those left behind to provide a constant supply of food for the departed, and pronounce his name also, in order to maintain his continuing existence.
[House of Rebirth] “I am the Tomb, the Temple, the Ziggurat, the Pyramid, and the House of Rebirth, which is known also as Brihadishvara, Caana, Meta Romuli, Nohoch Mul, and Punden Berundak. Shadow lurks inside my structure – and shadows I cast outside – I am like a sun-dial which measures the universe’s constant rhythm. For I am the Sun also. These chambers comprise my will and my message to the inconceivable ages which have not yet arrived. In this place you shall hear my true voice singing a song about an immemorial period that had already come to an end an immeasurable time ago. Listen to my words, every one of you who has ears to hear, and a mind to understand. Pay careful heed to all these things, for it is not fitting for the wise to turn from instruction in vain, from knowledge which has been collected little by little, and which is offered so generously so that they can enrich themselves. Listen to me, pay attention, and learn, whilst I begin to declare the words of the Charm of Rebirth which sends rumbles through the Two Worlds – Kheperi kheperentw khekheperi kheprikhepera khepereni Khepri khepre. Khepereni kheperen kheprereni.”
[The Unborn] “In a thick, translucent soup I swim, in this place full of silent desire, or perhaps I’m sailing on the surface of some unknown sea, overflowing with desires unfulfilled up to now. Am I dead or as yet unborn? Like the tiniest whale in the world, I delight in feeling the water around me, whilst I sing, chep-er – chep-er – chep-er. Well at least I think I’m chirping, or making sound of some kind, without words or tune, whilst labouring to convey so many things, inconsistent and indescribable, to tell tales about numberless lives which no-one has yet lived. And these are all stories full of terror and tears, passions and fears, desires, and pleasures, and pains. An incredibly potent combination of elements brought me forth, a mixture containing blood and honey, salt and sorcery, sweat and soil. Some internal tide awoke the proliferation of my cells, igniting the raw, red fuse of my life at the same time {Meditation}.”
[House of Rebirth] “In the beginning, the primordial broth, which is complete in itself, dreams, and amidst the waters there arise thoughts which create themselves. But whilst these thoughts are powerful, despite that they are mute also. Listen, for here am I telling you how the whole universe came to be.”
[The Unborn] “All the time in this darkness my body tosses and turns, grows and extends, bends and transforms, as I am enslaved by biogenetic laws, in the same way as every other creature made of flesh and blood, bone and skin. So my physical shape responds to the call of force-fields and chemical gradients for the time being, changing its form incessantly. And as I develop, I’m a fish to start with, then a salamander, after that a tortoise, followed by a chick, before becoming a pig, and next a calf, which turns into a rabbit, and last I am a child. And realising this, I would come to possess the most powerful magic, if I could only remember, or invent, the appropriate words to express the metamorphosis absolutely correctly, to start it, to control it, to halt it, to steer it along new paths. But as soon as I think such things, I change my mind straight away, because I’m not sure that all this is true, in this place where concepts are melting and re-forming magically all the time. And I start to lose a sense of reality, asking myself like people have done so often before: what, exactly, is truth? And that’s why, in moments of complete terror as I hang here naked, so full of expectations I feel like I’m about to explode, I scream, chep-er, chep-er, chep-er, and it’s as if my consciousness has just been torn totally unexpectedly from an unthinking void. But it’s not me who’s chosen to accept this burden, the deadly infection transmitted from the parents to the child. And despite that, it’s me who’s been fated to live, and to die at last, at the end of a turbulent life.”
[House of Rebirth] "First of all, the disordered mind’s original thoughts split into light and darkness, energy and substance, spirit and body, consideration and action, movement and repose; and these go forward to hover over the face of the great, grey sea of endless possibilities. Now, like a lethargic snake basking on the desert’s hot sand while intently sniffing the air, the thoughts sense the movement of the vast expanse of water, beginning to fashion from the primordial elements a heart and a mouth, teeth, and a tongue, to pronounce the creative words which shall complete the great task, namely revealing the glory of the creation.”
[The Unborn] “O Mother, my Mother, talk to me; here I am, waiting, on tenterhooks, and listening. Let us walk together under the night sky, along the shore of the thoughtful sea which is the source of so much, I who am a traveller in your womb, and you who stroll life’s complex paths, whilst your bare feet sink into the ancient, cold sand. Protect me, Mother, you who have chosen, and I who lack any choice at all, while we wander under the beams of the moon who is wife to nature, and therefore nursemaid to all, and who will light up the whole world in her own time. The trillions of sand-grains chronicle the futility of the ages, whilst the churning water reminds us of whence we have come, and whither we shall return. The tender waves whisper to my cells full of saline fluid, whilst the haemoglobin in my blood-cells, which has iron in its heart, rushes through my veins, chep – er – chep – er – chep – er. And I pant while trying to sing in harmony with the tiny perturbations in the magnetic field that enswathes the planet, but due to the restrictions on my feeble body, I am condemned to fail.”
[House of Rebirth] “And suddenly the creative thoughts converse with each other using words that have never been heard before. The bubbling waters cry out in pain due to the birthing pangs, whilst lightning flashes all around, delivering the disordered void of space. Then, the void is ordered in accordance with the blueprint of the cosmos, on the basis of the thoughts which are declared in the form of words, by the mouth, the tongue, the teeth, and the lips. And so the Sun, and all the planets, come to be.”
[The Unborn] “And I, who have eyes but cannot see still, I who am swimming in the internal sea – it is I who am being protected by the womb’s fluid from the enormous attractive power of our father the Eyrth, and the immense pressure of the quilt of atmospheric air. In my calcified bones, through my sulfurous cysteine, and in my ferocious phosphates, I feel that we are all children to the forces of the universe. Their complex and finely-tuned energies interact with each other to enliven us. We share their efforts towards evolution and change because of the pair of chemical ribbons pleated in the heart of every cell. As members of the human race we all united by this molecular machine which defines our species. This template drives our desires, and ignites our fears, while also governing our dreams. And so, it is this information encoded in the essence of our existence which will work to fashion the future, mining a seam of imaginary possibilities without boundary or end.”
[House of Rebirth] “The Sun, the essence of generosity, works by means of the mind, the spirit, and the voice, to create life by declaring the magic words. This is how the fundamental elements of the cosmic order are connected with each other. Change is the crux of time, and change is seen by means of the movement of objects and the development of processes; and through quantitative properties which tend to increase and decrease, and qualitative ones which tend to intensify and weaken. And it appears as if it is time which causes change in its turn, although the former is but a sign of the latter. And on the part of the universe, life is the main sign of change. And so it is, that in the fullness of time, as one says, at the appointed time, that life arises and follows its exceptional course, ebbing and flowing, waxing and waning, living and dying at random to all appearances, whilst evolving in the most complex and wonderful fashion [*].”
[The Unborn] “What worlds, what lives, human beings create, weaving a tapestry of languages and ideas. Symbol calls to symbol, whilst signs couple together unrelentingly to make chains of brand-new meaning. And that’s how so many words flood out into the world to describe white-hot constellations of information, connecting mind with mind and firing stupendous engines of though and imagining. All this drama shall be awaiting me. It is already ready, that wide path that will lead to destruction. There is only need for the characters, and the locations, the dialogue, the narrative, and the events, together with the myriad of other details, to be revealed. And it’s me who’ll be forced to discover everything, in a future I won’t be able to control. And because of all this I sob while dancing here in my safe womb, drunk on the delirium of an unknown destiny.”
[House of Rebirth] “Due to the might of the Sun, all the elements appear, and all the powers, which exist today. It is as a result of his words that they came to be. It is through speaking that he created every thing that there is. And so there is: Lushfé, the bonfire that’s always consuming, and Tefnuth whose slothfulness tames every power; Hebé, the tempest who bellows all over, and Nuthkí the essence that both feeds and kills; Wezir, the void-space who’s ceaselessly boiling, and Isheth, the energy filling all nooks; Nebesh, the river that cannot be halted, and Swtakh the desert, who covers his face. And the names of the Seven Sorcerers are Lushfé and Tefnuth, Hebé and Nuthkí, Wezir, Isheth, and Nebesh. But about Swtakh the rebel, I cannot speak further, only to say that he became bond-servant to the others by trying to dominate them illegally. For, as it has been written: ‘Through winning one loses; and he who fails shall win’.”
[The Unborn] “Then again, amongst these unconnected imaginings, prickles of unease plague my puny body, whilst waves of worry wash over me. After all, what about disease and deformity, trial and tribulation? I cannot forget that that spiral double helix, concealed in the nucleus of almost every cell, contains information about the end of life as well as its beginning. Inside our spores there are the seeds of our desolation, even our destruction.”
[House of Rebirth] “At the top of the sacred system is the Sun, therefore, literally and metaphorically; he who has been ruling over the whole order of nature since the beginning time. It is the words of his magical and playful song that draw life from the cold, dead, mute soil. There was language there when the world was born; the whole planet is clothed with languages, and the gift of speech adorns the land, the sea, and the sky, making the world an exceptionally complex place at the same time. Everywhere, the scarabs chant a cyclical litany of death and rebirth from within the superb, fertile manure. And that is a mantra which begins itself, which refers to itself, which transforms itself, all the time – Kheperi kheperentw khekheperi kheprikhepera khepereni Khepri khepre. Khepereni kheperen kheprereni.”
[The Unborn] ‘Oh, now I need to turn to the male parent, the absent one, the one who runs away all the time, who does not want to acknowledge my existence, who wishes to deny me. You have suffered so much but come through it, and you will suffer once again before being released. And so, I raise up my imaginary voice, full of trembling and fear. O Father, my Father, you I invoke, beseech, implore, you who safeguard the magical staff of life, who rule communication, although you do not realise the fact. It is you who would know where this symbolic symphony will lead me, if you were to complete the appropriate ceremony, although you would not tell me even then. Perhaps in the future I’ll suffer from agonizing anaphylaxis which will impede my injured alveoli from opening to inhale the atmosphere’s impure air. Or rather, possibly, I shall be consumed by cancerous corruption, when one cell kills the other, swallowing the tissues and the conduits fashioned so adroitly after my enfleshing. But then the internal war would reflect the external battles, at least, where nature, which no longer nurtures, fights against itself in the form of greedy, selfish, inconsiderate, and warlike humanity, on the one hand, and the earthquake, the volcano, the hurricane, and the tsunami, or the other, scattering, carelessly, destruction in its wake.”
[House of Rebirth] “My million stones have crushed nations whilst being moved. And then they have resounded to the mesmeric sound of the hierophants through innumerable ages. There are secrets, which have enormous potential to change the world, lurking inside my cavernous depths. There is nothing as weighty as the hidden knowledge of the linguistic magic that I am gripping onto so tightly. It has been calling insistently for remembrance through the seasons, the years, the centuries, and the millennia; it is pleading to be released, so that I can complete the essential task of reviving the Magus, before thrusting his soul along the Southern Reach to eternity in the heavens {Language Magic}.”
[The Unborn] “But can I blame the impersonal forces of nature, is that attitude fair? Many people say that plagues, pestilence, and famine are acts of some Divinity or other. But what kind of sane Divinity could cause such things to happen? And then, on the other hand, if the Powerful Ones were totally mad, would not the Two Worlds simply implode under the pressure of the incalculable improbability, without a doubt? And remember that it is not I, the amnio-naut in the womb, wet to the skin, and lungs full of fluid, who has chosen the least part of all this. But despite that, here am I having extruded myself into this internal space, here I am, feeding, and growing, and maturing, creating and re-creating myself, and here I am screaming silently, and stirring, nudging my Mother from within. But it is not me who’s chosen anything at all of these things. Nor could I refuse, either, this gift of life, the greatest gift of all. And because it has been presented without generosity, and is lacking in love, only a worthless trifle full of anguish shall it be, in the end, anyway.”
[House of Rebirth] “My all-seeing eyes of sky-blue lapis-lazuli, which were fashioned by the master masons, are similar to those of an unborn babe. And they have watched everything sadly throughout the ages, whilst guarding up to now rites which have not been performed for hundreds of centuries. For I myself am the gate and the key to the Next World, it is I who should be last house for the Magus and starting-point for his journey amongst the stars as well as that. But – Oh, woe! – I have been violated and desecrated, and now my womb is empty, and my sacred spaces lonely! There is no longer a body wrapped as a mummy, lying safe inside its magical cocoon. But there is one in existence who knows the correct enchantment, who is conjuring the pent-up forces whilst I communicate all these matters to you. And so, I eagerly await the return of the Chosen One on the point of death. And then, when everything is ready, he shall come to be reborn, and I shall caress his uncorrupted body in my stone coffin, whilst his name, and personality, and shadow, and spirit, stroll the paths of the Two Worlds in the form of a powerful spirit, without hindrance, for ever!
* * * * * * * *
[*] Maybe the following observations will be pertinent here. I’ve managed to solve the riddle of the abstruse symbols appearing in “Dark-Walking,” or have interpreted them to my satisfaction at least. Here’s the result of my groping. The experience was similar to carving fog billowing about a mountain-peak, flying after a leaf being blown away by a tempest, or composing a poem in an unknown foreign tongue. It’s not a translation as such, I have to say, just the meaning that has come forth from the glyphs as I stared at them, contemplated them, and worried about them. I dreamt:
A star explodes, flying towards the Sun which holds back the waters.
The waters are fertile, giving safety to order which brings forth chaos.
We part at many intersections each leading to a nurturing home.
The king of the waters below breaks from the land to build a secret island.
Above, nurturing unites with punishing and flows out, speaking forth chaos.
The home of chaos pours sound into a place of nurture with equal rooms.
Each room is unfinished and climbs to a place inside a place which rises forever.
When the inspiration came, it was like Springtide breezes tenderly rippling the surface of a calm lake illuminated by the crescent moon. Now, however, I’ve no clue about what these sentences mean! It’s worse than the mentalist Mwink’s unhinged ramblings after he sailed off on his long night-voyage, and I’m more confused than before. Oh, well, we have to do what we must do in order to be who we are, or we won’t be ourselves. That’s it for now, then. You can make of all this what you will. — P.M.
Mewn gwledydd poeth, darpara cysgodion gysgodfeydd pwysig rhag yr haul, a grea fywyd, ond a’i difa hefyd. Yn yr hen, hen ddyddiau yn y Diffeithwch Dwyreiniol er enghraifft, ystyriwyd y cysgod dynol pygddu yn rhan anhepgor y bersonoliaeth, a allai symud, serch hynny, yn annibynnol ar y corff er mwyn diogelu ei berchen. Gweddïai’r boblogaeth gyfan y goroesent ar ôl tranc eu ffurf gorfforol, yn yr Isfyd oedd yn llawn cysgodion, lle yr âi’r Haul pan fyddai’n marw ar derfyn pob dydd. Oblegid y goel hon, yr oedd cryn ymdrech dros barhau’n fyw ar ôl marwolaeth, o ran y cyfoethogion o leiaf. Golygai’r darpariaethau priodol baratoi corff y person a oedd wedi marw yn ôl cyfarwyddiadau cymhleth, yn ogystal â chodi bedd arbennig a gyflanwyd yn dda â meddiannau. Byddai’r bedd yn llawn o amwledau nerthol a thestunau’n cynnwys trysorfa o wybodaeth grefyddol a hudol fel y byddai’r lle’n gyforiog o hud a swynion. Yr oedd y rhain i fod i alluogi’r ymadawedig i oroesi a ffynnu yn y byd a ddaw o leiaf cystal ag y gwnaethai o’r blaen, os nad lawer gwell. Yr oedd y fath feddau’n ‘peiriannau aileni,’ hynny yw, mynedfeydd i’r Byd Nesaf, ar y trothwy tywyll rhwng byw a marw. Wrth gwrs, fe fyddai angen ar y rhai a adawyd yn ôl ddarparu cyflenwad cyson o fwyd i’r ymadawedig, a llefaru’i enw hefyd, i faentumio’i fodolaeth barhaol.
[Tŷ Aileni] “Myfi yw'r Bedd, y Deml, y Sigwrat, y Pyramid, a Thŷ Aileni, a adwaenir hefyd fel Brihadishvara, Caana, Meta Romuli, Nohoch Mul, a Punden Berundak. Cysgod a lecha y tu mewn i’m strwythur – a chysgodion a fwriaf y tu allan – yr wyf fel deial haul a fesura rythm cyson yr hollfyd. Oblegid mai tŷ’r Haul ydwyf hefyd. Cynhwysa’r siambrau hyn fy ewyllys a’m neges at yr oesoedd annirnadwy nad ydynt wedi cyrraedd eto. Yn y lle hwn fe glywch fy ngwir lais yn canu cân ynghylch cyfnod cyn cof a oedd eisoes wedi dirwyn i ben amser anfesuradwy yn ôl. Gwrandewch ar fy ngeiriau, bob un ohonoch a chanddynt glustiau i wrando, ac ymennydd i ddeall. Rhowch sylw i’r holl bethau hyn yn ofalus, gan na wedda i’r doethion droi rhag hyfforddiant yn ofer, rhag gwybodaeth a gasglwyd bob yn ychydig, ac a gynigir mor hael, fel y gallant ymgyfoethogi. Gwrandewch arnaf, daliwch sylw, a dysgwch, wrth imi ddechrau datgan geiriau Swyn Aileni a yrr drystau trwy’r Ddau Fyd – Kheperi kheperentw khekheperi kheprikhepera khepereni Khepri khepre. Khepereni kheperen kheprereni.”
[Yr Ananedig] “Mewn cawl trwchus a thryloyw rwy’n nofio, yn y lle hwn llawn dymuniad mud, neu falle mod i’n hwylio ar wyneb rhyw fôr anhysbys, sy’n gyforiog o ddymuniadau heb eu cyflawni hyd yn hyn. Ydw i’n farw neu heb fy ngeni eto? Fel y morfil lleia' yn y byd, rwy’n ymhyfrydu yn teimlo’r dŵr o’m cwmpas, wrth i fi ganu, chep-er – chep-er – chep-er. Wel o leia’ rwy’n credu mod i’n grillian, neu ‘neud sŵn o ryw fath, heb eiriau nac alaw, wrth lafurio i gyfleu cymaint o bethau anghyson ac annisgrifiadwy, i ddweud chwedlau am fywydau di-rif nad yw neb wedi’u byw eto. A hanesion llawn arswyd a dagrau, nwydau a gofidiau, awyddau, pleserau, a phoenau ydyn nhw i gyd. Cyfuniad o elfennau anhygoel o rymus a esgorodd arna i, cymysgedd yn cynnwys gwaed a mêl, halen a lledrith a chwys a phridd. Deffrodd rhyw lanw mewnol luosogi fy nghelloedd, gan gynnau ffiws goch, gignoeth fy mywyd ar yr un pryd.”
[Tŷ Aileni] “Yn y dechreuad, fe freuddwydia’r cawl cychwynnol sydd yn gyflawn ynddo’i hun, ac ymhlith y dyfroedd yr ymgoda meddyliau a grea eu hunain. Ond tra bo’r meddyliau hyn yn rymus, serch hynny y maent yn fud hefyd. Gwrandewch, am mai dyma fi’n dywed wrthych sut y daeth y cyfanfyd oll i fod.”
[Yr Ananedig] “Drwy’r amser yn y tywyllwch ‘ma mae ‘nghorff i’n troi a throsi, tyfu ac ymestyn, plygu a thrawsffurfio, am fy mod i’n gaeth i ddeddfau biogenetig, yn yr un modd â phob creadur arall wedi’i ‘neud o gig a gwaed, asgwrn a chroen. Felly mae fy siâp corfforol yn ymateb i alwad meysydd grym a graddiannau cemegol am hyn o dro, gan newid ei ffurf o hyd ac o hyd. Ac wrth i fi ddatblygu, rwy’n bysgodyn i ddechrau, wedyn salamander, ar ôl hynny crwban, wedi’i ddilyn gan giw, cyn dod yn fochyn, ac yn nesa’n llo, sy’n troi’n gwningen, ac yn olaf rwy’n grwt. Ac o sylweddoli hyn, fe fyddwn i ddod i feddu ar yr hud mwya’ nerthol, ‘swn i ond yn gallu cofio, neu ddyfeisio, y geiriau priodol i fynegi’r trawsffurfiad yn fanwl gywir, i’w gychwyn, i’w reoli, i’w atal, i’w lywio ar hyd llwybrau newydd. Ond cyn gynted ag rwy’n meddwl y fath bethau, dyma fi’n newid fy meddwl yn syth, achos dw i ddim yn sicr bod hyn oll yn wir, yn y fan hon lle mae cysyniadau’n toddi ac ail-ffurfio’n hudol bob amser. A dyma fi’n dechrau colli synnwyr realiti, gan ofyn fel mae pobl wedi ‘neud cyn amled o’r blaen: beth, yn enwedig, yw gwirionedd? A dyna pam, mewn eiliadau o ofn llwyr wrth i fi hongian yma’n noeth, mor lawn disgwyliad nes i fi deimlo fel ‘swn i ar fin ffrwydro, rwy’n sgrechian, chep-er, chep-er, chep-er, ac mae fel ‘sai fy ymwybod newydd ei rwygo’n hollol annisgwyl o wagle difeddwl. Ond nage fi sy wedi dewis derbyn y baich hwn, yr haint farwol wedi’i throsglwyddo o’r rhieni i’r plentyn. Ac er hynny, fi sy wedi’i dynghedu i fyw, ac i farw o’r diwedd, ar derfyn bywyd cythryblus.”
[Tŷ Aileni] "Yn gyntaf oll, hollta dychmygion gwreiddiol yr ymennydd anhrefnus yn olau a thywyll, egni a sylwedd, enaid a chorff, ystyriaeth a gweithred, symud a gorffwys, ac â’r rhain yn eu blaenau i hofran dros wyneb y môr mawr, llwyd o bosibiliadau di-ben-draw. Yn awr, fel neidr swrth yn torheulo ar dywod poeth yr anialwch wrth arogleuo’r awyr yn astud, synhwyra’r meddyliau symudiad yr ehangder aruthrol o dŵr, gan ddechrau llunio o’r elfennau cyntefig galon, a cheg, dannedd, a thafod, i ynganu’r geiriau creadigol a fydd yn cyflawni’r weithred fawr, sef datgelu gogoniant y greadigaeth.”
[Yr Ananedig] “O Fam, fy Mam, sgwrsiwch â fi: dyma fi’n aros, ar binnau bach, a gwrando. Gadewch i ni gerdded gyda’n gilydd dan yr awyr nos, ar lan y môr meddylgar sy’n ffynhonnell i gymaint, fi sy’n deithiwr yn eich croth, a chi sy’n rhodio llwybrau cymhleth bywyd, wrth i’ch traed noeth suddo i’r tywod oer, hynafol. Diogelwch fi, Fam, chi sy ‘di dewis, a fi sy heb ddewis o gwbl, wrth i ni grwydro dan belydrau’r lleuad sy’n wraig i natur, ac felly morwyn fagu i bawb, ac a fydd yn goleuo’r holl fyd yn ei hamser ei hun. Mae’r triliynau o ronynnau tywod yn croniclo oferedd yr oesoedd, wrth i’r dŵr corddol ein hatgoffa o ble rydym ni wedi dod, ac i ble y byddwn ni’n dychwelyd. Mae’r tonnau’n tyner sisial wrth fy nghelloedd llawn hylif helïaidd, wrth i’r haemoglobin yn fy nghelloedd gwaed, sydd â haearn yn ei galon, ruthro drwy fy ngwythiennau, chep – er – chep – er – chep – er. A dyma fi’n dyhefod wrth geisio canu mewn cytgord ag aflonyddiadau bychain ar y maes magnetig sy’n amgylchu’r blaned, ond o achos y cyfyngiadau ar fy nghorff pitw, dw i’n cael fy nghondemnio i fethu.”
[Tŷ Aileni] “Ac yn sydyn dyna ymddiddan y meddyliau creadigol wrth ei gilydd gan ddefnyddio geiriau nas clywyd erioed o’r blaen. Gwaedda’r dyfroedd byrlymus mewn loes oblegid y wasgfa esgor, wrth i felt fflachio o boptu, gan roi genedigaeth i wagle di-drefn y gofod. Wedyn, trefnir y gwagle yn unol â chynddelw’r cosmos, ar sail y meddyliau a ddatgenir ar ffurf geiriau, gan y geg, y tafod, y dannedd, a’r gwefusau. Ac felly dyma ddod yr Haul, a’r planedau i gyd, i fod.”
[Yr Ananedig] “A fi, sydd â llygaid ond nad yw’n gallu gweld o hyd, fi sy’n nofio yn y môr mewnol – fi ydy sy’n cael ei amddiffyn gan hylif y groth, rhag grym atyniad enfawr ein tad y ddaear, a phwysedd aruthrol cwrlid yr awyr atmosfferig. Yn fy esgyrn galcheiddiwyd, trwy fy systëin sylffyraidd, ac yn fy ffosffadau ffyrnig, rwy’n teimlo’n bod ni i gyd yn blant i rymoedd yr hollfyd. Mae’u hegnïon cymhleth a manwl gyweiriedig yn rhyngweithio gyda’i gilydd i’n bywiogi ni. Rydym ni’n rhannu’u hymdrechion dros esblygiad a newid o achos y pâr o rubanau cemegol wedi’u plethu yng nghalon pob cell. Fel aelodau’r hil ddynol rydym ni oll yn cael ein huno gan y peiriant molecylaidd hwn sy’n diffinio’n rhywogaeth. Mae’r templed ‘ma’n gyrru’n chwantau, a thanio’n hofnau, wrth reoli’n breuddwydion hefyd. Ac felly, y wybodaeth hon wedi’i chodio yng nghraidd ein bodolaeth, fydd yn gweithio i lunio’r dyfodol, gan fwyngloddio haen o bosibiliadau dychmygol heb ffin na therfyn.”
[Tŷ Aileni] “Gweithia’r Haul, hanfod haelioni, drwy gyfrwng y meddwl, yr enaid, a’r llais i greu bywyd trwy ddatgan y geiriau hudol. Dyma sut mae elfennau sylfaenol y drefn gosmig yn cysylltu â’i gilydd. Newid yw craidd amser, a gwelir newid trwy gyfrwng symudiad gwrthrychau a datblygiad prosesau; a thrwy briodweddau meintiol a duedda i gynyddu a lleihau, a rhai ansoddol a duedda i gryfhau a gwanhau. Ac ymddengys fel petasai amser a achosa newid yn ei dro, er mai dim ond arwydd yr ail yw’r cyntaf. Ac o ran yr hollfyd, bywyd yw prif arwydd newid. Ac felly yng nghyflawnder amser, fel y medd dyn, ar yr amser penodedig y cwyd bywyd, a dilyn ei gwrs digynnig, gan lanw a threio, cynyddu a chilio, ar hap a damwain i bob golwg, wrth esblygu yn y modd mwyaf cymhleth a rhyfeddol [*].”
[Yr Ananedig] “Am fydoedd, am fywydau, mae bodau dynol yn eu creu, gan weu tapestri o ieithoedd a syniadau. Mae symbol yn galw ar symbol, wrth i arwyddion gyplu’n ddiarbed wrth ei gilydd i ‘neud cadwyni o ystyr newydd sbon. A dyna sut mae cymaint o eiriau’n ffrydio allan i’r byd i ddisgrifio cytserau eiriasboeth o wybodaeth, gan gysylltu meddwl â meddwl a thanio injans syfrdanol meddwl a dychymyg. Fe fydd yr holl ddrama hon yn aros amdana i. Mae e eisoes yn barod, y llwybr llydan ‘na fydd yn arwain i dranc. ‘Sdim ond rhaid i’r cymeriadau, a’r lleoedd, y deialog, y naratif, a’r digwyddiadau, yn ogystal â’r manylion fyrdd eraill gael eu datgelu. A fi fydd yr un a gaiff ei orfod i ddarganfod popeth, mewn dyfodol na fydda i’n medru’i reoli. Ac o achos hyn oll dw i’n beichio wylo wrth ddawnsio yma yn fy nghroth saff, wedi’i dal hi ar ddeliriwm tynged anhysbys.”
[Tŷ Aileni] “Oherwydd nerth yr Haul yr ymddengys yr holl elfennau, a’r pwerau oll, a fodola heddiw. O ganlyniad i’w eiriau y dônt i fod. Trwy lefaru y crea ef bob peth sydd. Ac felly y mae: Lushfé, y goelcerth sy wastad yn ysu, a Tefnuth, a’i syrthni yn dofi pob grym; Hebé, y ddrycin, sy’n rhuo ym mhobman, a Nuthkí, yr hanfod sy’n bwydo a lladd; Wezir, y gofod sy’n berwi heb ysbaid, ac Isheth, yr egni sy’n llenwi pob cil; Nebesh, yr afon na ellir ei hatal, a Swtach, yr anial, sy’n celu ei wep. A’r enwau ar y Saith Swynwr yw Lushfé a Tefnuth, Hebé a Nuthkí, Wezir, Isheth, a Nebesh. Ond am Swtach y gwrthryfelwr ni allaf sôn mwyach, ond i ddweud iddo fynd yn was caeth i’r lleill trwy geisio goruchafu arnynt yn anghyfreithlon. Am mai, fel yr ydys wedi ysgrifennu: 'Trwy ennill y daw colli, a’r sawl a fetha a ennill'.”
[Yr Ananedig] “Eto i gyd, ymhlith y dychmygion digyswllt ‘ma, mae pigiadau o anesmwythder yn plagio fy nghorff eiddil, wrth i donnau o bryder olchi drosof fi. Wedi’r cwbl, beth am haint a hagrwch, helbul a helynt? Dw i’m yn gallu anghofio taw’r helics dwbl, troellog ‘na, wedi’i gelu yng nghnewyll bron pob cell, sy’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â therfyn bywyd yn ogystal â’i gychwyn. Y tu mewn i’n sborau ni, mae had ein digalondid, hyd yn oed ein distryw.”
[Tŷ Aileni] “Ar ben y system sanctaidd y mae’r Haul, felly, yn llythrennol ac yn drosiadol, efe a reola dros holl gyfundrefn natur er y cychwyn cyntaf. Geiriau ei gân hudol a chwareus a dynn fywyd o’r pridd mud, marw, oer. Yr oedd iaith yno pan anwyd y byd; mae’r holl blaned wedi’i dilladu ag ieithoedd, a dawn ymadrodd a addurna’r tir, y môr a’r awyr, gan wneud y byd yn lle eithriadol o gymhleth ar yr un pryd. Ym mhob man, siantia’r sgarabiaid litani gylchol marwolaeth a dadeni oddi mewn i’r tail toreithiog, rhagorol. A dyna fantra a gychwyn ei hun, a gyfeiria at ei hun, a drawsffurfia ei hun, drwy’r amser – Kheperi kheperentw khekheperi kheprikhepera khepereni Khepri khepre. Khepereni kheperen kheprereni.”
[Yr Ananedig] “O, bellach mae arna i angen troi at y rhiant gwryw, yr un absennol, fe sy’n rhedeg bant bob tro, nad yw eisiau arddel fy modolaeth, sy’n dymuno fy ngwrthod i. Dych chi wedi diodde’ cymaint ond dod drwyddi, ac fe fyddwch yn godde’ unwaith yn rhagor cyn cael eich rhyddhau. Ac felly, rwy’n codi fy llais dychmygol, llawn cryndod a dychryn. O Dad, ‘Nhad, arnoch chi rwy’n galw, erfyn, deisyf; chi sy’n diogelu ffon hudol iaith, sy’n rheoli cyfathrebu, er dydych chi ddim yn sylweddoli’r ffaith. Chi fyddai’n gwybod i ble y bydd y symffoni symbolaidd hon yn fy arwain i, ‘sech chi’n cyflawni’r seremoni briodol, er na fyddech chi’n dweud wrtha i hyd yn oed wedyn. Falle yn y dyfodol fe fydda i’n diodde’ o anaffylacsis arteithiol fydd yn atal fy alfeoli anafus rhag agor i anadlu awyr amhûr yr atmosffer. Neu yn hytrach, o bosibl, fe fydda i’n cael fy nifa gan lygredd canseraidd pan fydd y naill gell yn lladd y llall, gan lyncu’r cnodweoedd a’r cwndidau a luniwyd mor gywrain ar ôl fy ymgnawdoli. Ac wedyn fe fyddai’r gad fewnol yn adlewyrchu’r rhyfeloedd allanol, o leia’, lle mae natur, sy ddim yn meithrin rhagor, yn ymladd yn erbyn ei hunan ar ffurf dynolryw farus, hunanol, anystyriol, a rhyfelgar ar yr un llaw, a’r ddaeargryn, y llosgfynydd, y corwynt, a’r tswnami ar y llaw arall, gan wasgaru, yn esgeulus, ddifrod yn ei sgil.”
[Tŷ Aileni] “Mae fy miliwn o feini wedi malu cenhedloedd wrth gael eu symud. Ac wedyn maent wedi diasbedain gan sain hypnotig yr hieroffantiaid drwy oesoedd rif y gwlith. Mae yna gyfrinachau, sydd â photensial enfawr i newid y byd, yn llechu y tu mewn i’m dyfnderoedd ceudyllog. Nid oes dim byd mor drwm â gwybodaeth guddiedig yr hud ieithyddol yr wyf yn gafael ynddi mor dynn. Mae wedi bod yn galw’n daer am goffa drwy’r tymhorau, y blynyddoedd, y canrifoedd, a’r milenia; mae’n ymbil am gael ei rhyddhau, er mwyn imi allu cyflawni’r dasg hanfodol o adfywhau’r Dewin, cyn gwthio’i enaid ar hyd yr Hyd Deheuol tuag at dragwyddoldeb yn y nefoedd.”
[Yr Ananedig] “Ond alla i roi bai ar rymoedd amhersonol natur, ydy’r agwedd ‘ma’n deg? Mae llawer o bobl yn dweud taw gweithrediadau rhyw Dduwdod neu’i gilydd yw trychinebau, plâu, haint, a newyn. Ond pa fath o Dduwdod call a allai achosi i’r fath bethau ddigwydd? Ac wedyn, ar y llaw arall, ‘sai’r Rhai Nerthol yn hollol loerig, oni fyddai’r Ddau Fyd lai nag mewnffrwydro dan bwysau’r amhosibilrwydd anhraethol, heb os nac oni bai? A chofiwch chi nad fi, yr amnio-forwr yn y bru, gwlyb at y croen, a’i ysgyfaint yn llond o hylif, sy wedi dewis y rhan leia’ o hyn oll. Ond er gwaetha’ ‘ny, dyma fi wedi fy allwthio fy hunan i’r gofod mewnol ‘ma, dyma fi’n bwydo, a thyfu ac aeddfedu, gan greu ac ail-greu fy hunan, a dyma fi’n sgrechian yn fud, a syflyd, gan bwtian fy Mam oddi mewn. Ond nage fi sy wedi dewis dim byd o gwbl o’r pethau ‘ma. Na gallwn i wrthod, ‘chwaith, y rhodd hon o fywyd, yr anrheg fwya’ ymhlith yr holl anrhegion. Ac am ei bod wedi’i chyflwyno heb haelder, ac yn brin o serch, dim ond manbeth anfuddiol, llawn ing fydd e yn y diwedd, beth bynnag.”
[Tŷ Aileni] “Mae fy llygaid hollweledol o lapis-laswli glas yr awyr, a luniwyd gan y pen-seiri meini, yn debyg i eiddo baban heb ei eni. Ac maent wedi gwylio popeth yn drist ar hyd yr oesoedd, wrth warchod hyd yn hyn ddefodau sydd heb eu cyflawni ers cannoedd o ganrifoedd. Am mai myfi fy hun yw’r porth a’r allwedd i’r Byd Nesaf, myfi a ddylai fod yn dŷ olaf i’r Dewin a man cychwyn ei daith ymhlith y sêr ar ben hynny. Ond – gwae fi!– rwy wedi cael fy nhreisio a’m halogi, a bellach gwag yw fy nghroth, ac unig fy lleoedd sanctaidd! Nid oes mwyach gorff wedi’i lapio fel mymi’n gorwedd yn ddiogel y tu mewn i’w gocŵn hudol. Ond mae yna un mewn bodolaeth a ŵyr y swyngyfaredd gywir, sydd yn consurio’r grymoedd cronedig wrth imi gyfathrebu wrthych y materion hyn i gyd. Ac felly rwy’n chwannog ddisgwyl dychwelyd yr Un Detholedig ar farw. Ac wedyn, pan fydd popeth yn barod, efe a ddaw i gael ei ail-eni, ac fe fyddaf fi’n anwesu ei gorff nas llygrir yn fy arch garreg, wrth i’w enw, a phersonoliaeth, a chysgod, ac enaid rodio llwybrau’r Ddau Fyd ar ffurf ysbryd nerthol heb rwystr am byth!"
* * * * * * * *
[*] Efallai bydd y sylwadau canlynol hyn yn berthnasol yma. Dw i wedi llwyddo i ddatrys pos y symbolau astrus yn ymddangos yn “Tywyll-rodio,” neu wedi’u dehongli nhw i’m boddhad o leiaf. Dyma ganlyniad fy ymbalfalu. Bu’r profiad yn debyg i geisio cerflunio niwl yn byrlymu ar gopa mynydd, hedfan ar ôl deilen yn cael ei chwythu bant mewn tymestl, neu eilio cân mewn iaith estron ac anhysbys. Dyw e ddim yn gyfieithiad fel y cyfryw, raid dweud, dim ond yr ystyr sy wedi ymddangos o’r glyffiau wrth i fi rythu arnyn nhw, myfyrio uwch eu pennau, a phoeni amdanyn nhw. Nes i freuddwydio:
Ffrwydra seren, gan hedfan at yr Haul sy’n cadw’r dyfroedd yn ôl.
Ffrwythlon yw’r dyfroedd a rhydd ddiogelwch i drefn sy’n epil ar anhrefn.
Rydym yn ymwahanu ar lawer o croesffyrdd, a phob yn arwain at gartref meithringar.
Mae brenin y dyfroedd islaw yn torri oddi wrth y tir i adeiladu ynys gêl.
Uchod, mae meithrin yn uno â chosbi a llifo allan, gan wysio anhrefn.
Tywallta cartref caos sŵn i le maethu ag ystafelloedd cyfradd.
Anorffenedig yw pob ystafell a ddringa i le mewn lle sy’n codi’n ddiderfyn.
Pan ddaeth yr ysbrydoliaeth, roedd fel awelon y gwanwyn yn crychu’n dyner wyneb llyn llonydd wedi’i oleuo gan y lleuad gilgant. Nawr, fodd bynnag, ‘does dim clem ‘da fi am beth mae’r brawddegau ‘na’n olygu! Mae’n waeth na mwydro dryslyd y meddyliaethydd Mwink ar ôl iddo godi hwyl am ei fordaith hir gyda’r nos, a dw i mewn mwy o benbleth nag o’r blaen. O wel, rydym yn gorfod gwneud yr hyn y mae arnom angen ei wneud i fod yr hyn ydym, neu ni fyddwn ni ein hunain, sbo. Dyna fe am y tro, felly. Fe allwch ddefnyddio hyn oll fel y dymunwch. — P.M.